DWLP08

Senedd Cymru | Welsh Parliament

Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol | Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee

Datblygu’r ddarpariaeth Gymraeg ôl-16 |Development of post-16 Welsh language provision

A triangle with red and green stripes  Description automatically generatedYmateb gan Urdd Gobaith Cymru | Evidence from Urdd Gobaith Cymru

 

 

 

Urdd Gobaith Cymru yw’r prif ddarparydd Prensiaethau yn y Gymraeg o fewn y drydedd Sector. Rydym yn cynnig rhaglen genedlaethol gydag yn agos at 500 o ddysgwyr wedi dilyn rhaglen Brentsiaethau’r Urdd yn y Gymraeg. <htps://www.urdd.cymru/cy/prensiaethau/>

Mae Urdd Gobaith Cymru o’r farn y bydd unrhyw doriad i gyllideb y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg yn creu effaith negyddol ac o bosib syfrdanol i ddatblygiad addysg ôl-16, drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ystod 23-24, cefnogwyd yr Urdd gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg i benodi 2 brentis a chefndir ethnig lleiafrifol, nid oedd yn siaradwyr Cymraeg. Drwy gymorth y ganolfan, roddem yn medru darparu tiwtor iddynt, a derbyniwyd gwersi Cymraeg 3 gwaith yr wythnos, yn ystod eu horiau gwaith. Mae’r ddau ar fin eistedd eu harholiadau mynediad. Cefnogwyd hefyd aelod o staff, nid oedd yn siaradwr Cymraeg, eto o gefndir ethnig lleiafrifol, fel Swyddog Chwaraeon Cynhwysiant ac Amrywiaeth Chwaraeon. Mae’r Swyddog hwn wedi llwyddo yn ei brawf mynediad, ar fin eistedd ei brawf sylfaen, ac yn gweithredu o ddydd i ddydd yn y Gymraeg.

Mae'r rhain yn siaradwyr cwbl newydd, sydd yn estyn ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg i gymunedau newydd. Mae 46 aelod o staff yr Urdd wedi derbyn budd o’r cynllun; sydd yn cynnwys ffoaduriaid sy’n gweithio yng nghegin Llangrannog, staff chwaraeon a’r Adran Brentisiaethau.

Rydym am i’r cymorth gan y Ganolfan parhau, ac edrychwn argynlluniaui dyfu'r rhaglen hon.

Cefnogwyd yr Urdd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, dros sawl blwyddyn, ers i’r Coleg derbyn y cylch gorchwyl ar gyfer addysg ôl-16. Llwyddom i ddatblygu Hwb Sgiliau Hanfodol cenedlaethol, sydd yn gweithio gyda sawl partner i ddarparu cymwysterau ac adnoddau Sgiliau Hanfodol drwy’r cyfrwng Gymraeg.

Mae’r HWB yn sicrhau mynediad at addysg Cymraeg neu ddwyieithog, heb y rhwystrau arferol, i ddysgwyr, brentisiaid a myfyrwyr ar draws Cymru. Gwelwn angen i’r coleg ymestyn ei waith sydd yn canolbwyntio ar y brîf ddarparwyr brentisiaethau, i bartneriaid eraill allweddol, megis yr Urdd ac isgontractwyr eraill.

Heb y gefnogaeth gan y ddau sefydliad hyn, byddem yn gweld effaith sylweddol ar yr iaith Gymraeg. Ni fydd rhaglen prentisiaethau dwyieithog yr Urdd yn medru parhau. Byddem yn gweld cwymp yn y nifer o ddysgwyr sydd yn buddio o’r HWB Sgiliau Hanfodol, oedd bron i 200 unigolyn yn 23-24. Gweler HWB Sgiliau Hanfodol | Urdd Gobaith Cymru.

Mae ein rhaglenni a gefnogwyd gan y sefydliadau hyn, hefyd yn rhoi hyder yn ôl i unigolion nad yw’n cyfri ei hun fel siaradwyr rhugl. Mae hwn oherwydd diffyg hyder, a thrwy ein rhaglen ddwyieithog a’n Hwb Sgiliau Hanfodol, llwyddom i newid y meddylfryd hwn, a helpu unigolion i adennill ei sgiliau Cymraeg.

Byddem yn cefnogi ariannu'r ddau sefydliad ac ystyriwn unrhyw doriad i’w cyllidebau yn gam yn ôl, ar y siwrne i godi safonai ac estyn addysg ôl-16 drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Catrin Davis

Pennaeth Prentisiaethau 

Urdd Gobaith Cymru